leon louise

Roedd y brawd a'r chwaer o Gwm-parc, Leon a Louise Griffiths, dim ond yn 10 a 8 oed pan gawson nhw eu rhoi mewn gofal.

Aethon nhw i'r ysgol un bore ac yn lle dod adre ar ddiwedd y prynhawn, aethon nhw yn syth i gartref Susanne Smith a'i phartner Martyn, sef y rhieni maeth, yn Nhonpentre.

Mae mynd i ofal mor gyflym yn peri gofid mawr i blant. Dyna pam mae'n hanfodol bod cartrefi maeth lleol yn barod i ddarparu'r cysur, diogelwch a'r sefydlogrwydd.

Meddai Leon a Louise bod symud i gartref Susanne, a'r fagwraeth glyd a thraddodiadol yno, wedi newid eu bywydau er y gorau.

Meddai Susanne mai'r balchder mae hi'n ei deimlo wrth weld Leon a Louise yn tyfu'n oedolion ifainc hyderus, uchelgeisiol yw'r rheswm mae hi'n maethu.

Mae Leon a Louise wedi siarad i gefnogi ymgyrch barhaol y Cyngor sy’n ceisio hybu rhagor o drigolion o bob cefndir i ystyried gyrfa newydd fel rhiant maeth.

Heb rieni maeth, fyddai gan y Cyngor ddim dewis ond gosod plant mewn lleoliadau gofal sector annibynnol. Gall hyn fod cannoedd o filltiroedd i ffwrdd, yn gwahanu'r plentyn - nid yn unig o'i deulu, ond ei ffrindiau, yr ysgol a'r gymuned.

Susanne yw cyn-garcwraig Leon a Louise. Pan glywodd hi fod Leon, Louise a'u brodyr iau yn mynd i ofal, roedd hi'n gwybod bod rhaid gwneud rhywbeth a phenderfynodd hi ddod yn rhiant maeth – swyddogaeth mae hi’n dal i ymgymryd â hi hyd heddiw.

Cafodd Leon a Louise eu magu gyda theulu Susanne, ynghyd â'i mab ei hun sydd yr un oed â Leon, a merch faeth arall yr un oed â Louise. Symudodd dau frawd Leon a Louise i leoliad sector annibynnol yng Nghaerdydd.

Cawson nhw eu croesawu i deulu 'traddodiadol', yn yr un gymuned, ac fe wnaeth hynny fyd o wahaniaeth i Leon a Louise.

Maen nhw'n dweud bod y ffaith eu bod wedi'u magu yn yr un ffordd â phlant eraill - gyda rheolau a disgyblaeth yn ogystal â magwraeth gariadus a chymorth - wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w hyder a'u huchelgeisiau.

Graddiodd Leon o Brifysgol Abertawe yn ddiweddar, ac mae Louise yn mwynhau lleoliad dwy flynedd yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf yn rhai o'i raglen 'Cam i'r Cyfeiriad Cywir', sydd bellach wedi rhedeg ers degawd. Mae'r rhaglen yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd swyddi i bobl ifainc sy'n gadael gofal a chymryd eu camau cyntaf tuag at fyw yn annibynnol.

Mae'r ddau yn byw'n annibynnol ac wedi meithrin perthynas gyda'u mam enedigol a'u brodyr eraill, wrth aros yn agos gyda Susanne a'i theulu hi. 

Mae eu stori nhw unwaith eto'n pwysleisio pwysigrwydd rhieni maeth, a'r gwahaniaeth maen nhw'n gallu’i wneud i fywyd plentyn neu berson ifanc - yn enwedig rheiny sydd ychydig yn hŷn ac angen arweiniad.

Meddai Leon: "Fydden ni ddim lle'r ydyn ni heddiw heb Susanne. Buon ni’n mwynhau bywyd teuluol cyffredin gyda rhywun oedd yn cymryd i ystyriaeth ein gorffennol a sut roedd hynny wedi effeithio arnon ni. Trwy ddangos cariad a bod yn bresennol yn ein bywydau, fe adawodd Susanne i ni wella o’n profiadau a datblygu yn ein ffyrdd ni ein hunain.

"Roedd yn deulu traddodiadol, gyda chinio dydd Sul, cerdded gyda'r cŵn a'r teulu dros y mynyddoedd, tynnu lluniau ar gyfer yr albwm teuluol, dathliadau Nadolig, mynd i'r ysgol bob dydd a gwneud ein gwaith cartref.

"Roedd popeth yn arferol, a beth mae'r rhan fwyaf o bobl yn ystyried yn gyffredin, ond roedd i gyd mor anhygoel oherwydd y modd daeth Susanne i'r amlwg a'n magu ni. Nid dim ond rhoi llety gwnaeth Susanne, ond ein magu ni."

Ychwanegodd Louise: "Roedd byw gyda theulu traddodiadol o'r Cymoedd mor bwysig. Diolch i Susanne a Martyn, roedden ni’n gallu aros yn yr un ysgol, gyda'r un ffrindiau a pharhau i fwynhau ein cymuned.

"Wrth gwrs, roedd rhai problemau i’w datrys ac roedd angen cymorth ychwanegol o ganlyniad i’r sefyllfa ar ddechrau’n bywydau, ond doedd dim triniaeth arbennig neu eithriadau i'r rheolau tŷ i ni. Roedd Susanne yn ein parchu ni ac yn ymddiried ynon ni yn yr un ffordd ag roedd hi’n ei wneud gyda’i mab ei hun, a gadael i ni fwynhau tyfu i fyny.

"Cafodd ein brodyr eu symud i leoliad gofal maeth preifat ac arhoson ni mewn cysylltiad â nhw. Roedd eu profiad nhw'n wahanol i'n un ni. Roedden nhw'n byw mewn tŷ mawr gyda phethau drud, ond doedd ganddyn nhw mo’r un lle yn y teulu â ni. Byddaf yn ddiolchgar am byth am y croeso a'r normalrwydd."

Meddai Susanne, sy'n rhiant maeth amser llawn o hyd, "Fe wnes i a Martyn fwynhau'r holl flynyddoedd roedd Leon a Louise yn byw gyda ni. Byddan nhw yn rhan o'n teulu ni am byth.

"Roedden nhw'n blant hyfryd, didrafferth ac yn bleser wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Roedden ni'n ffitio'n dda, y chwech ohonon ni, i gyd yn byw mewn un tŷ. Ry'n ni'n hoffi mynd allan a gwneud gweithgareddau, a bydden nhw i gyd yn dod gyda ni (tan iddyn nhw fod yn eu harddegau).

"Wnes i ddangos fy hoff lefydd iddyn nhw. Aethon ni i Rydychen, Caerfaddon, Llundain a phob cwr o Dde Cymru - roedd Dinbych y Pysgod a Saundersfoot yn ffefrynnau. Roeddwn eisiau dangos cymaint o'r DU iddyn nhw ag oedd yn bosibl, gyda'r gobaith y byddan nhw'n hyderus i deithio ac astudio pan oedden nhw'n hŷn.

"Does dim llawer o blant maeth yn mynd i'r brifysgol, ond mae’r hyn maen nhw'n ei ddysgu gartref yn eu paratoi ar gyfer eu bywyd eu hunain. Bydd eich trefn feunyddiol, gwybod eich bod chi yna iddyn nhw a sut i reoli ymddygiad wrth iddyn nhw dyfu i fyny yn ysbrydoli sut maen nhw'n magu plant yn y dyfodol.

"Roedd gweld Leon yn y seremoni yn derbyn ei radd yn un o brofiadau gorau fy mywyd.

"Fel gwarchodwr plant yn y gymuned leol, cwrddais i â phlant oedd wedi wynebu llawer o drawma. Drwy faethu plentyn ac aros trwy'r blynyddoedd anodd, lle mae'n ceisio darganfod pwy ydy e a’r hyn mae e eisiau o'i fywyd, yn werth chweil yn y diwedd.

"Rydyn ni mor falch o Leon a Louise - maen nhw wedi gweithio ac ymdrechu’n galed. Dy'n ni ddim yn cymryd unrhyw glod am sut maen nhw wedi datblygu. Nhw sydd wedi gwneud y gwaith, ac roedden nhw'n bleser."

Mae'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, Cydraddoldeb a'r Gymraeg: "Mae pob plentyn yn RhCT yn haeddu cael ei fagu mewn teulu cariadus, beth bynnag oedd ei sefyllfa gychwynnol. Mae Leon a Louise yn dyst i hyn.

"Rwy'n diolch iddyn nhw am siarad am sut mae cartrefi maeth lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol y plant sydd eu hangen fwyaf.

"Mae angen rhagor o rieni maeth arnon ni, yn enwedig i blant sydd ychydig yn hŷn ac sydd angen y gofal, cymorth a'r cyfleoedd hynny y mae plant eraill yn eu cael.

"Nid cynnig llety'n unig wnaeth Susanne, a dyna beth sy'n gwneud pob un o rieni maeth y Cyngor mor anhygoel.

"Rwy'n gwybod fod cymaint o bobl eraill yn y Fwrdeistref Sirol sydd â chymaint i'w gynnig i berson ifanc. Rwy'n eu hannog i ystyried ymuno â'r garfan arbennig yma o bobl.

"Mae'n rôl heriol, gwerth chweil lle'r ydych chi ymysg gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd i ddarparu gwasanaeth proffesiynol, cariadus sy'n sicrhau dyfodol gwell i blant."