martha

Mae Martha a Simon Edwards o Aberdâr, sy'n rhieni i bump o blant, yn mwynhau rhannu’u cariad tuag at fywyd teuluol a gweithio gyda phobl ifainc drwy ddod yn rhieni maeth i Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Maen nhw wedi croesawu bachgen 13 oed i'w teulu. Mae e, ochr yn ochr â'u plant nhw, sydd rhwng 8 a 17 oed, yn mwynhau heriau a boddhad eu bywydau newydd.

Gan ddefnyddio'r sgiliau a ddysgon nhw yn ystod eu gyrfaoedd yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc, a thynnu ar eu profiadau nhw'u hunain yn rhieni hefyd, mae'r pâr yn llawn balchder a chyffro wrth i'w mab maeth ddatblygu sgiliau personol a'r hyder sydd eu hangen arno i ddod o hyd i drywydd bywyd ei hun.

Gyda'u gofal, cymorth ac amynedd, mae'n troi'n grwt ifanc â dawn mewn chwaraeon ac mae ganddo amrywiaeth eang o ffrindiau a diddordebau.

Mae'r pâr wedi rhannu eu stori yn rhan o Bythefnos Gofal Maeth, sef ymgyrch genedlaethol sy'n cael ei chefnogi gan y Cyngor i godi ymwybyddiaeth am faethu, dathlu gwaith cynhalwyr ac annog eraill i ystyried agor eu cartrefi i blentyn neu berson ifanc.

Roedd y ddau yn gweithio gyda phlant a phobl ifainc yn eu gyrfaoedd blaenorol. Roedd Simon yn hyfforddwr gweithgareddau awyr agored tra roedd Martha yn gweithio ym maes addysg gynradd, bellach ac uwch.
Pan gawson nhw blant, newidiodd Simon yrfa i weithio yn y diwydiant olew er mwyn darparu ar gyfer ei deulu. Daeth Martha, a aned yn Sbaen, yn gyfieithydd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyfieithydd llawrydd, a oedd yn fodd iddi weithio oriau hyblyg o gwmpas anghenion ei theulu.

Roedd y ddau yn hiraethu am weithio gyda phlant. Gan fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn maethu, penderfynon nhw gymryd y cam cyntaf a gwneud cais, ar ôl gweld baner hysbysebu'r Cyngor yn apelio am rieni maeth newydd.
Roedd hynny dros flwyddyn yn ôl ac mae'r pâr eisoes wedi gofalu am saith o blant – gan gynnwys gefeilliaid o ferched bach – drwy amrywiaeth o achosion brys a lleoliadau gofal maeth seibiant.

Yna, cafodd eu mab maeth groeso i'w teulu fel lleoliad tymor hir ac maen nhw'n mwynhau y boddhad a'r heriau a ddaw o'i helpu i dyfu a ffynnu fel crwt ifanc. Mae'n rhannu holl elfennau'r bywyd teuluol, sy'n cynnwys llawer o amser yn y ganolfan chwaraeon, noson ffilm i’r teulu, gwyliau, aros dros nos, gweithgareddau allgyrsiol a chinio dydd Sul yn nhŷ Mamgu a Dadcu. Mae rhieni Simon, Fred a Maureen, wrth eu bodd yn treulio amser gyda'r plant i gyd.

Mae dod o hyd i gartrefi maeth ar gyfer plant hŷn a rhai yn eu harddegau yn her i Garfan Gofal Maeth Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n rheoli anghenion 628 o blant sy'n derbyn gofal, rhwng 0 a 18 oed ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae llawer o bobl yn awyddus i faethu babanod a phlant bach, ond mae prinder cartrefi maeth ar gyfer plant hŷn a rhai yn eu harddegau. Gall hyn fod oherwydd bod plant o'r oedran yma yn her ychwanegol i rieni maeth.

Heb deuluoedd lleol parod i faethu plant yn lleol, does gan y Cyngor ddim dewis ond defnyddio cartrefi maeth y tu allan i'r sir ar gyfer y plant y mae'n gofalu amdanyn nhw. Mae hyn yn golygu, ar ben y gofid o adael eu teulu biolegol, maen nhw hefyd filltiroedd i ffwrdd o'r ysgol, ffrindiau a'r gymuned gyfarwydd.

Mae Martha yn awyddus i nodi bod maethu plentyn hŷn yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision.

Esboniodd: "Rydyn ni wedi maethu plant o bob oed ac mae pob un wedi rhoi boddhad a her. Rydyn ni wedi gweithio'n galed fel rhan o garfan, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol a'r teulu biolegol, i wneud yr hyn sy'n briodol i'r plentyn hwnnw.

"Drwy fod yn hyblyg a thrwy fod yn awyddus i addasu a dysgu drwy gymryd y cyngor, cymorth a hyfforddiant sydd ar gael, rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi gwneud gwahaniaeth. Rydyn ni wedi caru'r profiad mae pob un plentyn maeth wedi’i roi inni.

"Mae plant hŷn yn wefr i faethu oherwydd eu bod yn ddigon hen i fynegi eu hunain, beth maen nhw eisiau, pwy maen nhw am fod, beth maen nhw eisiau’i wneud, yn enwedig pan mae'n lleoliad tymor hir fel hyn.
"Mae hyn yn caniatáu i ni, fel rhieni maeth, feithrin a chefnogi'r cynlluniau ac uchelgeisiau hynny. Nid yn unig ein bod ni'n rhoi adenydd i'r plentyn, ond hefyd bod yno a gwylio gyda balchder pan fyddan nhw'n gwneud yr ehediadau cyntaf allan i'r byd.

"Mae'n fraint fawr i fod mewn sefyllfa lle gallwch chi weld rhywun yn tyfu yn ddyn ifanc o flaen eich llygaid, gan wybod mai chi a'ch teulu helpodd i wneud i hynny ddigwydd."

Mae'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant a Chydraddoldeb: "Dw i'n edmygu rhieni maeth Rhondda Cynon Taf yn fawr. Maen nhw'n darparu cartrefi diogel a gofalgar ar gyfer y plant a'r bobl ifainc y mae rhaid i ni – fel cymuned ac fel rhiant corfforaethol – weithredu ein dyletswydd gofal tuag atyn nhw.

"Mae rhieni maeth yn dweud eu bod nhw'n bobl gyffredin – ond mae’r hyn maen nhw'n ei wneud yn rhyfeddol.

"Dyw plant sy'n derbyn gofal ddim yn gallu byw gyda'u rhieni biolegol ac nid arnyn nhw mae’r bai am hynny. Mae hynny ynddo'i hun yn her. Yna, mae wynebu'r posibilrwydd o symud filltiroedd a milltiroedd oddi wrth yr unig gymuned, ysgol a chylch ffrindiau rydych chi wedi'u hadnabod erioed yn anodd meddwl amdano. Os na chawn ni ragor o gartrefi lleol i ofalu am blant lleol, dyna fydd y realiti. Mae hyn eisoes yn realiti ar gyfer bron i 200 o blant sydd mewn lleoliadau y tu allan i'r sir.

"Siaradwch ag unrhyw un o'n rhieni maeth a byddan nhw'n dweud pa mor heriol ond gwerth chweil yw'r rôl. Byddan nhw'n disgrifio'r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Maen nhw'n sôn am atgofion a'r cerrig milltir sy'n destun balchder ynghyd â'r sefyllfaoedd hynny a fydd yn parhau'n wersi bywyd am byth. Bydd pob un ohonyn nhw’n dweud mai dyna'r peth gorau maen nhw erioed wedi’i wneud.

"Mae ein rhieni maeth yn dod o bob cefndir a, rhyngddyn nhw, yn darparu cymuned a chroeso sy'n ymestyn i unrhyw un arall sy'n dymuno camu ymlaen a gwneud rhywbeth rhyfeddol drwy ddod yn rhiant maeth.

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf garfan Gofal Maeth gyfeillgar, arbenigol sydd yna i ateb unrhyw gwestiynau am ofal maeth. Fe gewch chi ffonio neu anfon e-bost i gael sgwrs anffurfiol am yr yrfa eithriadol yma.

Mae pob rhiant maeth yn cael cymorth helaeth, hyfforddiant a chefnogaeth gan gymheiriaid ac mae lwfansau a manteision ariannol hael ar gael, gan gynnwys mynediad hamdden am ddim.